Chwaraeon a Hamdden
Clybiau Chwarae
CLWB HWYLIO BAE COLWYN.
Erbyn hyn rydym yn glwb morio yn bennaf, sy’n gysylltiedig â’r RYA. Mae gan nifer o aelodau angorfeydd a ddyrannwyd gan Awdurdod Harbwr Conwy. Mae’r harbwr 100 llath o lithrfa Aberhod a gysgodir gan forwal Llandrillo yn Rhos. Angorfeydd hanner llanw yw’r rhain sy’n rhoi bron i chwe awr o hwylio ar un llanw. Mae gan aelodau eraill angorfeydd ar Afon Gonwy ac ym Mhenryn Safnas (Gallows Point) ger Biwmares. Mae ein parc cychod yn Rhos Point, rhyw 200 llath i’r gorllewin o’r harbwr, lle caiff y badau eu cadw dros y gaeaf. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda Choleg Rydal-Penrhos sy’n enwog am eu gweithgareddau hwylio ac maent yn cynnal y bencampwriaeth Pico. Rydym yn rhoi rheolaeth rasio yn ystod y bencampwriaeth. Bae Colwyn yw un o’r mannau gorau i hwylio ar arfordir Gogledd Cymru ac ond 90 munud o Fanceinion a 2 awr o Birmingham. Mae llithrfa eang iawn yn Llandrillo yn Rhos sydd i’w ddefnyddio gan fadau hwyliau yn unig. Nid oes rhaid talu am lansio ac fe’i cysgodir rhag popeth ond gwynt y dwyrain.
CLWB NOFIO AMATUR BAE COLWYN
Mae Clwb Nofio Amatur Bae Colwyn yn ymarfer tair gwaith yr wythnos yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn ar nos Sul, nos Lun a nos Fercher rhwng, 6 – 8.30pm.
http://www.colwynbayasc.co.uk/
CLWB ATHLETAU BAE COLWYN
Lleolir ein clwb mewn rhan eidylig a phictiwrésg o Gymru sy’n edrych allan dros Mor Iwerddon. Ein nod yw hyrwyddo athletau i bawb o bob oed o 6 ymlaen. Rydym o hyd yn annog ac ysgogi’r ddealltwriaeth o fabolgampau. Bydd pob aelod yn cael y cynnig i gymryd rhan yn y Trac a Maes, Rhedeg Traws Gwlad a Rhedeg ar y Ffordd ac fe gynorthwyir hwy yn hyn gan hyfforddiant penigamp. Mwynhewch yr heriau a’r cyfeillgarwch mae mabolgampau yn eu creu
http://www.colwynbayathletics.org.uk/
CLWB BRIDGE BAE COLWYN
Clwb Criced Bae Colwyn, Rhodfa Penrhyn, Llandrillo yn Rhos
Bridge dyblyg cyfeillgar – croeso i’r rhai sy’n dysgu. Dim angen bod yn aelod o WBU
Nos Fawrth 7.30 pm – 10.30 pm
Nos Wener 7.30 pm – 10.30 pm
CLWB CRICED BAE COLWYN
Ffurfiwyd y clwb ym 1923 a dechreuwyd chwarae ar faes Rhodfa Penrhyn yn Llandrillo yn Rhos ym 1924. Eleni rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 90 mlwydd oed! Mae’r timau 1af, 2il a’r 3ydd yn cystadlu ym Mhrif Gynghrair ac Adran Gyntaf ECB, Cystadleuaeth Criced Lerpwl a’r Cylch. Aseswyd maes Clwb Criced Bae Colwyn i fod y maes gorau yn y Gystadleuaeth am y 7fed blwyddyn yn olynol yn 2012. Mae ein timau ieuengaf yn chwarae yn erbyn timau lleol yn y grwpiau dan 9 a dan 10 ac mae ein timau dan 11, dan 13 a dan 15 yn cystadlu yng Nghynghreiriau Eryri. Mae’r clwb yn croesawu Criced Sirol pob blwyddyn ac yn 2012 croesawyd Clwb Criced Sir Forgannwg a Chlwb Criced Swydd Efrog yma i chwarae yng Nghystadleuaeth Sirol LV ar ddechrau mis Mehefin. Rhoddwyd gorau i’r gêm yma ar ôl chwarae un bore yn unig oherwydd y tywydd garw. Er hyn, gydag ymdrechion enfawr gan staff maes Sir Forgannwg a rhai o aelodau ein pwyllgor ein hun, chwaraewyd y gêm Cystadleuaeth 40 pelawd Banc Clydesdale yn unol â’r rhaglen ar ddydd Sul 10fed Mehefin. Dychwelodd Durham Dynamos i’r maes am y tro cyntaf ers 1993 i chwarae yn erbyn Morgannwg, a adnabyddir erbyn hyn yn Ddreigiau Cymru. Y canlyniad oedd i Ddreigiau Cymru ennill eu gêm gyntaf.
http://www.colwynbaycricketclub.co.uk
CLWB PÊL-DROED BAE COLWYN
Clwb Pêl-droed Bae Colwyn
Ffordd Llanelian
Hen Golwyn
LL29 8UN
Rhif Ffôn – Materion Cyffredinol: 01492 514 680
Rhif Ffôn y Swyddfa – dydd y gêm: 01492 514 581
Maint a Ddelir: 2500 (500 o Seddau)
Nifer Fwyaf yn Bresennol: 5000 vs. Borough United ym Mharc Eirias 1964
Cyfleusterau
Mae lolfa’r clwb yn cynnwys Bar Trwyddedig lle y gweinir diodydd alcoholig a heb alcohol. Mae’r sgrin fawr ar gael i ddangos canlyniadau chwaraeon ar ddyddiau gemau. Mae cantîn yn gweini
byrbrydau a diodydd poeth ag oer yn ogystal â siop y clwb sy’n gwerthu nwyddau swyddogol y clwb.
CLWB HOCI BAE COLWYN..
Mae gan Glwb Hoci Bae Colwyn 4 tîm Dynion a 2 tîm Merched yn chwarae yng Nghynghrair Gogledd Orllewin Gogledd Cymru. Mae gan y clwb adran ieuenctid llwyddiannus iawn a edmygir gan lawer o glybiau eraill yn y rhanbarth.
http://www.colwynbayhockey.com/
CLWB RYGBI BAE COLWYN
Mae gan y Clwb Rygbi Tîm Cyntaf a fydd, yn nhymor 2011/12, yn chwarae yn Ail Adran y Gogledd, Undeb Rygbi Cymru. Mae Ail Dîm Bae Colwyn yn cystadlu yn Adran Pedwar y Gogledd (y Dwyrain). Mae gan Bae Colwyn Dîm Ieuenctid sy’n cael cefnogaeth dda ac mae yna dimau i’r rhai dan 7 a thrwy bob un o’r 10 adran oedran hyd at dan 16 mewn Adran Ieuenctid bywiog sy’n tyfu. Agorwyd ein Tŷ Clwb gwreiddiol ym 1975 gan Mike Roberts, aelod o’r Clwb, chwaraewr Rhyngwladol dros Gymru ac yn un o’r Llewod Prydeinig. Yn Rhagfyr 2001 agorwyd ein Tŷ Clwb newydd gan Glanmor Griffiths oedd yn Is-Lywydd Undeb Rygbi Cymru ar y pryd, ac fe gafodd ei wella ymhellach yn ystod 2003. Mae ynddo cyfleusterau ardderchog ar gyfer rygbi a digwyddiadau cymdeithasol eraill, sy’n cynnwys tri chae chwarae, ardal hyfforddi , ystafelloedd newid newydd, maes parcio ceir a Thŷ Clwb gyda Sgrin Teledu Fawr a Wi-Fi.
http://www.colwynbayrugby.co.uk/
CLWB PYSGOTA MÔR FICTORIA BAE COLWYN
Mae’n cael adroddiadau a chanlyniadau o gystadlaethau pob clwb cynghrair a physgota agored a gynhelir ledled Gogledd Cymru, o gwch neu o’r lan
CLWB CANŴIO COLWYN
Os ydych yn padlwr profiadol neu fod canŵio yn gamp newydd i chi, cewch groeso cynnes yng Nghlwb Canŵio Bae Colwyn. Rydym yn glwb gweithgar, cyfeillgar a theuluol ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru, yn ymdrin â chanŵio fel gweithgaredd hamdden. Mae’r Clwb yn bodoli er budd yr aelodau, a’r nod yw mwynhau’r amrediad rhyfeddol o brofiadau canŵio sydd ar gael ar stepen ein drws.
CLWB SGÏO JET COLWYN.
Ffurfiwyd y Clwb yn Nhachwedd 1996 i hybu diogelwch personol ar y dŵr, ac i greu cysylltiad gyda’r Cyngor lleol. Fe’n cydnabyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r Awdurdod Harbwr lleol. Mae gennym ganiatâd i ddefnyddio llithrfa Parc Eirias ym Mae Colwyn. Mae gennym gytundeb gyda’r awdurdod lleol mewn perthynas â thrwydded gweithredu sy’n caniatáu blaenoriaeth i aelodau’r clwb i gael mynediad i lithrfa Pier Fictoria a’r maes parcio ceir hyd at 12 canol dydd ar ddiwrnodau’r clwb (Suliau a Gwyliau Banc) trwy’r tymor. Gall sgiwyr jet sydd ar ymweliad defnyddio’r cyfleusterau ar ôl 12 canol dydd ar ddiwrnodau’r clwb ac ar adegau cyn 12 canol dydd ar ddisgresiwn swyddog y llidiart ar adegau tawel.
Rhaid i aelodau’r clwb ag ymwelwyr fod a phrawf yswiriant sgi jet 3ydd parti gyda hwy pa bryd bynnag y byddent yn lansio.
http://www.colwynjetskiclub.co.uk/
CANOLFAN TENIS JAMES ALEXANDER BARR..
Mae gan Ganolfan Tenis James Alexander Barr ym Mae Colwyn cyfleusterau ‘o’r dosbarth cyntaf’
sy’n galluogi chwarae tenis trwy’r flwyddyn ar y ddau gwrt dan do a phedwar cwrt allanol gyda llifoleuadau. Agorwyd y ganolfan yn 2003 ac fe’i lleolir mewn safle hyfryd ym Mharc Eirias.
LE SPORT
Mae’r ganolfan Iechyd a Ffitrwydd yn cynnig awyrgylch cynnes a chyfeillgar i bobl o bob oedran, boed yn ddynion neu ferched. Mae gennym dderbynfa lle cewch ymlacio am ddiod dawel a byrbryd. Mae gennym amrediad eang o offer o ansawdd dda, ystafelloedd ymarfer helaeth, cyrtiau sboncen, siop, sawna ag ystafelloedd newid. Mae croeso i bawb, a byddwn yn falch i chi gael y cyfle o edrych o gwmpas ein cyfleusterau ar unrhyw adeg.
http://www.lesporthealthandfitness.co.uk/
CLWB GOLFF HEN GOLWYN
Fe gydnabyddir mai Clwb Golff Hen Golwyn yw trysor cuddiedig Arfordir Gogledd Cymru – mae ein cwrs ddol 9 twll o fewn milltir i ffordd arfordir yr A55 o Gaer i Gaergybi. Mae gan Hen Golwyn olygfeydd rhagorol o fryniau Cymru, Bae Colwyn a Môr Iwerddon. Byddwn yn gwahodd pob chwaraewr i eistedd ag i fwynhau’r golygfeydd panoramig ar ôl iddynt orffen eu rownd. Fe agorwyd cwrs Hen Golwyn ym mis Medi 1907. Mae yn par 68 – 5263 o lathenni ac fe’i dyluniwyd gan James Braid, y golffiwr chwedlonol a fu’n Bencampwr Agored pum gwaith, Mae’r cwrs yn cynnwys un par 5, pump par 4 a thri par 3. Y seithfed twll par 3 yw ein twll arwyddocaol lle mae’n rhaid clirio tair coeden dderw fawr sy’n sefyll i warchod blaen y llain bytio. Grym Hen Golwyn yw nid yn unig y cwrs ond y Clwb ei hun. Byddwch yn siŵr o groeso cynnes os ydych yn penderfynu ymuno a ni yn y tŷ clwb yn dilyn eich rownd ag ymuno a ni am lymaid ac i rannu hanes eich rownd.
http://www.oldcolwyngolfclub.co.uk/
CLWB BOWLIO PARC RHOS..
Sylfaenwyd Clwb Bowlio Parc Rhos ym 1930 gydag un tîm yn unig yn cystadlu yn yr ardal. Heddiw mae gan y clwb 13 o dimau yn cystadlu mewn wyth cynghrair gwahanol sy’n dangos sut mae’r aelodaeth wedi tyfu. Rydym yn targedu pob oedran a gallu, merched a dynion ac rydym o hyd yn edrych am aelodau newydd. Mae gennym lawer o wirfoddolwyr sy’n helpu gydag amryw o ddyletswyddau yn cynnwys gofalu am y lawnt, y gegin, hyfforddi a helpu gyda’r adran iau. Felly nid oes raid i chi fod yn fowliwr i fod yn aelod. Mae gan y pwyllgor gwaith cynlluniau mawr ar gyfer y clwb i’n symud ymlaen i’r unfed ganrif ar hugain, felly pam na phorwch trwy ein gwefan i weld beth sydd o ddiddordeb i chi.
http://www.rhosparkbowlingclub.co.uk/
Cerdd a Dawns
DAWNS I BAWB
Dawns i Bawb yw’r grŵp ambarél ar gyfer dawns gymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru, o Bwllheli i Abergele, o Gaergybi i Dywyn. Mae Dawns i Bawb yn gweithio gyda phobl leol, dawnswyr amatur a phroffesiynol a gyda choreograffwyr er mwyn annog dawnsio yn yr ardal. Mae Dawns i Bawb yn credu gall pawb ddawnsio ac mae’n gweithio gyda phobl o bob oedran a gallu yn cynnwys grwpiau dan anfantais a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell gan roi iddynt y cyfle i gymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau dawns.
http://www.dawnsibawb.org.uk/home.php?/home
CERDDORIAETH BYW RŴAN
Cerddoriaeth Byw Rŵan (CBR) yw’r mudiad sy’n arwain ac yn ymestyn allan y datblygiad o gerddoriaeth yn y DU. Datblygwyd dull nodedig Cerddoriaeth Byw Rŵan dros 35 o flynyddoedd, gan wireddu gweledigaeth ein sefydlwyr, Yehudi Menuhin ag Ian Stoutzker. Rydym yn cefnogi cerddorion proffesiynol ifanc ysbrydoledig i ddefnyddio eu talentau er budd y rhai fyddai, fel arall, yn cael eu heithrio o gael y pleser o brofi cerddoriaeth byw.
YSGOL CELFYDDYD PERFFORMIO PEARL SHAW.
Os ydych yn ymwelydd neu yn fyfyriwr mae gennym nodweddion gwych newydd yn cynnwys llawer o fideos gwych o sioeau blaenorol, mwy o luniau, fforwm newydd, amserlen ar-lein, siop ar-lein a rhyngwyneb Moodle i fyfyrwyr hŷn. Cadwch i fyny efo’r newyddion ag adolygiadau ar dudalennau Newyddion a’r Wasg neu darllenwch Drydar Pearl Shaw ac felly wneud yn siŵr nad ydych yn colli dim. Mae’r wefan newydd yn cyfuno Grŵp Facebook Pearl Shaw a sianel YouTube, PearlShawTV! Mwynhewch!
http://pearlshawschoolofperformingarts.co.uk/wordpress/
STAGECOACH BAE COLWYN
Yma rydym yn cynnig hyfforddiant rhan amser o ansawdd dda mewn celfyddyd perfformio i blant rhwng 4 a 18 mlwydd oed. Ein nod yw meithrin a datblygu potensial pobl ifanc trwy gynnal dosbarthiadau canu, actio a dawnsio ym Mae Colwyn, gan ymestyn dychymyg y bobl ifanc a chodi hyder. Rydym yn agored pob penwythnos yn ystod tymor yr ysgol ac fe gynhelir gweithdai yn ystod gwyliau ysgol. Dewch i ymuno yn yr hwyl!
http://www.stagecoach.co.uk/colwynbay.html
CERDD A FFILM GYMUNEDOL TAPE
Mae Cerdd a Ffilm Gymunedol TAPE yn cefnogi pobl o bob oedran a gallu i archwilio a datblygu eu syniadau a’u gallu creadigol. Lleolir TAPE yng Nghanolfan Celfyddyd Gymunedol TAPE yn Hen Golwyn ac mae hefyd yn gweithio ar hyd Gogledd Cymru a ledled y DU. Mae TAPE yn credu mai bod yn greadigol sydd wrth galon llesiant unigolion a chymunedau. Yn dilyn ailwampio helaeth a thyfiant, rydym yn diweddaru ein gwefan i ymgorffori’r holl ddigwyddiadau cyffrous sy’n digwydd yng Nghanolfan Celfyddyd Gymunedol TAPE.
Cysylltwch ag un o’r tîm i drafod ein holl brosiectau, gweithgareddau a gwasanaethau.
e-bost: [email protected] neu ffoniwch 08432 163 909.
http://www.tapemusicandfilm.co.uk/
THEATR COLWYN
Agorwyd drysau’r man cyfarfod a elwir heddiw yn Theatr Colwyn, am y tro cyntaf i’r cyhoedd dros 126 o flynyddoedd yn ôl. Yn yr 1880au ei enw oedd ‘Public Hall’ – fel y tystir ar y plac carreg ar ben uchaf yr adeilad – ond roedd nifer o ddigwyddiadau yn mynd ymlaen yna, fel sydd heddiw – adloniant, darlithoedd, dawns a digwyddiadau i godi arian. Mae’n dda gennym allu cyhoeddi bod ymchwil diweddar yn yr archif cyhoeddus wedi dangos mai hwn yw’r sinema weithredol hynaf yn y DU.
http://www.theatrcolwyn.co.uk/
Grŵp Ukulele Bae Colwyn
Rydym yn ceisio hybu cerddoriaeth byw yn ardal Bae Colwyn. Caiff unrhyw un ymuno yn ein sesiynau ymarfer rheolaidd. Rydym hefyd yn annog pobl ifanc i ddechrau chwarae.
Gweler Grŵp Ukelele Bae Colwyn ar Facebook.
Meysydd Gwersylla
http://www.ukcampsite.co.uk/sites/details.asp?revid=4369
http://www.ukcampsite.co.uk/sites/details.asp?revid=12825
http://www.ukcampsite.co.uk/sites/details.asp?revid=5551
http://www.ukcampsite.co.uk/sites/details.asp?revid=10277
http://www.ukcampsite.co.uk/sites/details.asp?revid=10623
Clybiau ar ôl Ysgol
Gofal plant o ansawdd dda a chyfle i chwarae mewn amgylchedd dymunol, gofalgar ac addysgiadol.
First Steps Day Nursery
01492 541946 (Dim Gwefan ond mae’n cynnig Gwasanaeth Gofal Da Iawn i Blant). Gan ei fod yn dŷ helaeth ar wahân mae gan y Feithrinfa ystafelloedd mawr gyda digon o offer. Mae’n sefyll yn ôl o’r ffordd yn ei dir ei hun ac yn cynnig Mannau Chwarae allan Diogel. Mae First Steps Nursery yn bennaf yn gyfrwng Saesneg gydag ychydig o Gymraeg. Mae’n cymryd plant o 0 – 11 mlwydd oed yn cynnwys plant ar ôl ysgol.
Springfield Day Nurseries
Gyda phedair meithrinfa yn Sir Conwy, Gogledd Cymru, rydym yn gallu rhoi’r gofal gorau i blant a chynnig dewisiadau ar gyfer pob baban, plentyn a rhiant. Ein nod yw rhoi’r gofal gorau i’ch baban neu blentyn. Mae ein meithrinfeydd yn fodern, diogel, cynnes a golau, lle gall babanod a phlant ffynnu. Yn ogystal â bod yn lle cartrefol i’ch plentyn, mae gennym ddull hwyliog a strwythuredig sy’n ysgogi, yn seiliedig ar egwyddorion addysg gweithgar. Mae’n ddull sy’n sicrhau bod pob plentyn, o’r dechrau cyntaf, yn cael y profiad o amgylchedd addysgiadol ffrwythlon, cefnogol a bywiog i helpu datblygiad i lawn botensial.
http://sdn-uk.com/
Wyngarth Day Nursery
26 Kings Road
West End
Colwyn Bay
LL29 7YH
Postcode: LL29 7YH
Tel: 01492 533151
http://www.wyngarthdaynursery.com/