Llwybrau Hanes a Threftadaeth Leol

Nid yw Bae Colwyn yn dref “hanesyddol” yn ystyr arferol y gair. Nid oes angen mynd ymhellach yn ôl nag 1865 i weld bod y caeau a’r coedwigoedd yn dod i lawr at ochr y môr. Roedd y boblogaeth gynhenid Cymraeg yn byw mewn ychydig o faenordai dirodres, ffermydd, melinau dŵr, bythynnod, gefeiliau ag ychydig o bentrefannau bychan ond hynafol.

View of Colwyn Bay

Yn hanes Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg, roedd Ednyfed Fychan, milwr enwog ac yn Ganghellor i frenin Cymru, Llewelyn Fawr, yn byw yn ei faenordy yn Llys Euryn. Mae hwn yn adfail erbyn hyn ar lethrau Bryn Euryn. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ffyrdd tyrpeg yn y 1760au gan wella’r cysylltiadau yn raddol, ond yr hyn a achoswyd y newid mwyaf dramatig oedd adeiladu’r rheilffordd ym 1848.

Railway Bridge

Ym 1895, o ganlyniad i werthiant Ystad Pwllycrochan yn lleiniau adeiladu, datblygodd y dref newydd i fod yn “ddyfrfan” ffasiynol, i gyfarfod a’r angen cynyddol o’r mannau diwydiannol yng Nghanolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr am anheddau ger y môr. Erbyn 1901 roedd y boblogaeth wedi tyfu i 8,689, cymysgedd o bobl Cymraeg a Saesneg yn creu cymuned brysur ger lan y môr. Parhaodd y boblogaeth i dyfu nes ei fod erbyn Cyfrifiad 2011 bron a bod yn 26,000.

CCI19082013_0001

Gellwch ddilyn tri Llwybr Treftadaeth o gwmpas Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos, lle cewch ddarganfod mwy am hanes rhai o’n hadeiladau lleol.

Gellwch ddilyn tri Llwybr Treftadaeth o gwmpas Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos, lle cewch ddarganfod mwy am hanes rhai o’n hadeiladau lleol. Ar Daith Gerdded Treftadaeth Ganol y Dref, Taith Gerdded Eglwysi a Chapeli a Llwybr Treftadaeth Llandrillo yn Rhos, cewch ymweld â 25 safle hanesyddol mewn tair awr, yn cynnwys Capel St Trillo (yr eglwys leiaf ym Mhrydain) a gweddillion Bryn Euryn – bryngaer o’r 5ed ganrif efo golygfeydd trawiadol. Mae copïau o’r daflen llwybrau ar gael o’r Man Gwybodaeth i Ymwelwyr ar y Promenâd.