Siopa Lleol
Siopa ym Mae Colwyn
Os oes angen ychydig o therapi siopa arnoch, does dim rhaid i chi edrych ymhellach na Fae Colwyn, a enillodd gymaint o wobrwyon, a’r canolfannau siopa gerllaw yn Llandrillo yn Rhos, Hen Golwyn a’r West End. Mae busnesau teuluol, a gollwyd mewn cymaint o’n trefi, yn masnachu’n fodlon gyda rhai o enwau mawr y Stryd Fawr. Mae Bae Colwyn yn llawn o fân-werthwyr annibynnol o safon uchel gydag eitemau stoc nad ydynt ar gael yn y siopau a storfeydd cyffredin arferol.
Lle arall gallwch chi brynu piano cyngerdd bach neu gamera Hasselblad wrth edrych trwy lyfrau prin, prynu un sgriw, tegan pren neu’r gegin ddelfrydol? Bydd gennych gyfle rhagorol i gael hyd i’r union beth rydych yn chwilio amdano a llawer mwy o bethau nad oeddech yn meddwl eich bod eu hangen! Felly os rydych yn chwilio am yr anrhegion a’r nwyddau hynny sydd ychydig yn wahanol, does dim rhaid mynd ymhellach na’r Bae.
Tra rydych yn y dref, beth am ymlacio a chael hoe fach mewn un o nifer o siopau coffi, caffis, tafarndai a bwytai cyffyrddus?
Ar bob ddydd Mawrth a dydd Sadwrn ym Mae Colwyn, cewch fwynhau prysurdeb a’r chwilio am fargeinion yn farchnad stryd bennaf Gogledd Cymru, lle gallwch brynu prynu pethau o felysion o ansawdd da i felysion cnoi i’r ci!
Gellir prynu nwyddau a chigoedd Cymreig o ansawdd da o Farchnad y Ffermwyr a gynhelir pob dydd Iau (9am – 12 canol dydd) yng Nghanolfan Siopa Bay View.
Mwy o wybodaeth am y cynnyrch sydd ar gael ar rai o’r siopau lleol
Atyniadau Eraill
Tra’ch bod ym Mae Colwyn, edrychwch allan am y cerfluniau helygen ysblennydd a welir mewn gwahanol rannau o’r dref. Mae’n debyg mai rhain yw’r cerfluniau a ffotograffwyd fwyaf yn yr ardal! Boed yn wylanod, môr-forynion neu un o’r cerfluniau eraill, rydych yn siŵr o ddarganfod eich ffefryn arbennig eich hun. Maent yn rhan allweddol o ymgyrch y dref yng nghystadleuaeth ‘Cymru yn ei Blodau’. Enillwyd y Wobr am y Dref Fawr Gorau yng Nghymru am y deuddeg blynedd diwethaf yn ddi-dor! O ganol y dref nid ydych ond nepell o’r Promenâd, y traeth newydd, y môr a Chanolfan chwaraeon dŵr Porth Eirias.
Mae Theatr Colwyn, Sw Mynydd Cymru, Theatr Pypedau Harlequin, Teithiau Treftadaeth Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos, Canolfan Hamdden Colwyn a Pharc Eirias, gyda’i maes picnic o 50 o erwau, llynnoedd cychod, cyrtiau tenis, bowlio, nofio a rygbi a’r canolfan digwyddiadau o fewn ychydig o funudau cerdded neu yn y car. Gweler tudalen ‘ Atyniadau i Ymwelwyr’ ar y wefan am fwy o fanylion.
Yn wir mae rhywbeth i bawb, beth bynnag yw maint eich pocedi!