Pobl Leol Enwog
Timothy Dalton – James Bond
Gall fod yn dipyn o syndod i rai i wybod gall un o’r cymeriadau 007 hanu o Fae Colwyn ond yma cafodd ein 007 ei eni ar 21ain Mawrth 1946
Fe ganwyd yr actor hynaws soffistigedig hwn ym Mae Colwyn tra bod ei dad yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd..
Y ffilm gyntaf i Timothy ymddangos ynddi oedd The Lion in Winter ym1968, fel Brenin Philip II, gan symud ymlaen i Permission to Kill a Flash Gordon.
Ar y teledu, cymerodd Timothy ran Mr Rochester yn Jane Eyre ac ar yr un thema, Heathcliffe yn Wuthering Heights.
Ymddangosodd Timothy fel Bond yn The Living Daylights (1987) a Licence to Kill (1989)
Carl Dale
Ganwyd ymosodwr Clwb pêl-droed Bae Colwyn ar 29ain Ebrill 1966, gan ddechrau ei yrfa yn ei ieuenctid gyda’r Arsenal ac uchafbwynt ei yrfa oedd ymuno â Dinas Caerdydd gan wneud 211 ymddangosiad a sgorio 71 o goliau. Yma enillodd Pencampwriaeth y Drydedd Adran a Chwpan Cymru dwywaith.
Chwaraeodd hefyd i Gonwy United, Y Rhyl, Dinas Bangor, Dinas Caer, Tref Yeovil, a Chasnewydd.
Er iddo sgorio lawer o goliau, ni enillodd Carl cap lawn dros Gymru, ond chwaraeodd dros ei wlad fel bachgen ysgol.
Terry Jones Monty Python
Ganwyd Terry Jones ym Mae Colwyn ar 1af Chwefror. Mae’n un o noddwyr Theatr Colwyn, theatr hanesyddol Bae Colwyn a gafodd ei ailwampio’n ddiweddar.
Ei daid a nain oedd yn rhedeg Cymdeithas Amatur Operatig Bae Colwyn, gan lwyfannu cyngherddau Gilbert a Sullivan ar y Pier pob blwyddyn ac felly, trwy fod yn rhan o fyd adloniant Bae Colwyn heddiw, mae Terry yn adfywio traddodiad teuluol.
Tra yn y Brifysgol yn Rhydychen, daeth Terry ar draws Michael Palin ac yna crëwyd tîm ysgrifennu byd enwog a roddodd i ni raglenni poblogaidd megis The Late Show a’r Frost Review.
Yn dilyn hyn, ymunodd John Cleese, Terry Gilliam, Graham Chapman ag Eric Idle â hwy i gynhyrchu sioe sy’n parhau i roi gymaint o bleser ar draws y byd.
Fel Awdur, Cyfarwyddwr a Pherfformiwr, mae ganddo nid yn unig blas am y llwyfan ond hefyd fe’i cydnabyddir i fod yn arbenigwr ar hanes canoloesol.
Darogan Gwraig Tywydd y BBC
Helen Willetts
Fe’i ganwyd yng Nghaer (10 Chwefror 1972) ond fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Pendorlan ag Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn. Ymunodd Helen a Chanolfan Tywydd y BBC ym 1997.
Erbyn hyn mae hi’n darlledu’n gyson ar bob un o sianelau domestig y BBC, ac mae’n dychwelyd yn aml i Fae Colwyn i weld ei rhieni.
Tra yn Eirias roedd yn rhan o’r tîm Badminton, gan ennill lawer o gystadlaethau a phan oedd yn byw ym Mae Colwyn daeth yn Rhif 2 yng Nghymru. Ymunodd Helen a’r Swyddfa Meteoroleg yn Chwefror 1994, ar ôl iddi raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg o Brifysgol Nottingham.
Adeiladydd Toreithiog – Sidney Colwyn Foulkes
Roedd “SCF”, fel yr adnabuwyd ef, yn fab i adeiladydd a adeiladodd nifer o dai yng Nghanol Bae Colwyn, Eglwys Fethodistaidd St John’s yn ogystal ag Ysbyty Bae Colwyn ym 1925, Neuadd Goffa Ysgol Rydal, Tai yn Ffordd Elwy, Llandrillo yn Rhos a Chartrefi ‘Eventide’ Rhos.
Oherwydd i’w dad fod yn fethdalwr a marw’n ifanc, SCF oedd yr unig un o’r teulu oedd yn ennill cyflog. Gweithiodd fel saer coed a mân adeiladydd hyd nes iddo ennill ysgoloriaeth i astudio pensaernïaeth o dan yr Athro Syr Charles Reilly, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Lerpwl.
Yn dilyn ei wasanaeth rhyfel yn yr RNAS, dychwelodd i Fae Colwyn, gan ddylunio Sinema’r Arcadia yn Princess Drive ac yna’r Ysbyty, gan ddefnyddio syniadau arloesol o’r U.D.A. Dilynwyd hyn gydag adeiladau Ysgol Rydal a derbyniodd Gradd Anrhydedd Meistr Pensaernïaeth gan Brifysgol Lerpwl yn y 1930au.
Roedd “SCF” yn arloesol, gan anwybyddu rheoliadau disynnwyr ar adegau, trwy leihau uchder nenfydau i arbed oriau gwaith, deunydd a chostau gwresogi. Roedd Ystad Tai Ffordd Elwy yn drysor arbennig, gyda Clough Williams Ellis yn dod i’w weld ynghyd a Frank Lloyd Wright, y Pensaer enwog o America. Yn ystod yr adeg yma dyfarnwyd iddo’r OBE ac fe ddaeth yn Rhyddfreiniwr o’r Fwrdeistref.
Roedd yn aelod sylfaenydd o Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru a bu yn weithgar gyda Chyngor Diogelu Cymru Wledig. Bu SCF hefyd yn ymwneud â phrosiectau peirianyddol pwysig yng Nghymru ag Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, gan adael yr hyn a gyflawnwyd ganddo i’w mwynhau gan y cenhedloedd i ddod.
Mike Walker
Ganwyd Mike ym Mae Colwyn ar 28ain Tachwedd 1945. Daeth yn enwog fel gôl-geidwad ac yn Rheolwr Pêl-droed, gan chwarae i Reading, Shrewsbury Town, York City, Watford, Charlton a Colchester United. Bu’n rheolwr ar Colchester United, Norwich City, Everton, ag Apoel yng Nghyprus. Cynrychiolodd Tîm dan 23 Cymru 4 gwaith, a’i fab Ian yn cynrychioli Lloegr.
Ym 1992, aeth a Norwich City i’r 3ydd safle yng Nghynghrair newydd y Premier League, gan gymhwyso’r tîm ar gyfer Cwpan UEFA ym 1992/93. Curwyd hwy gan dîm nerthol Bayern Munich
Noreen Edwards
Bu’n gweinyddu ym maes nyrsio yn ardal Bae Colwyn ac fe’i hadnabuwyd gyda pharch ag anwyldeb. Bu’n weithgar yn y Fyddin Diriogaethol, gan gyrraedd rheng y swydd o Is-Gyrnol.
Yn ei chyfnod fel Metron Ysbyty Mamolaeth Nant y Glyn, Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn ac yn olaf Ysbyty Abergele, fe’i cydnabuwyd hi i fod ‘y Metron perffaith’. Roedd ei nyrsys yn ddisgybledig iawn oherwydd roedd Metron yn mynnu’r gorau o’i staff. Fel gweinyddwraig, roedd yn dra effeithiol, ei llymder yn cael ei dymheru gyda charedigrwydd aberthol a hiwmor miniog. Roedd ganddi broffil cenedlaethol fel Cadeirydd Bwrdd Cymru a Chyngor Cenedlaethol y Coleg Nyrsio Brenhinol. Hi oedd y ddynes gyntaf i fod yn Ddirprwy Arglwydd Raglaw ac Uwch Siryf Clwyd, a derbyniodd yr OBE ym 1970 a’r CBE ym 1988.
Ym 1973, priododd Clerc Tref Bae Colwyn, priodas hapus iawn ond un ddaeth i ben wrth iddi ei nyrsio trwy ei waeledd blin olaf. Roedd cariad ei theulu tuag ati yn enfawr a bu farw yn 2011.
Stanley Ravenscroft
Yn nyddiau cynnar yr hyn yr ydym yn adnabod heddiw i fod yn Theatr Colwyn, hwn oedd y dyn a fu’n gyfrifol am lawer o’r cynyrchiadau a gyflwynwyd yn ‘The New Rialto Repertory Theatre’. Cymerodd brydles am naw wythnos ag arhosodd am ddwy flynedd ar hugain!
Roedd yn byw mewn fflat uwchben yr awditoriwm gyda’i gath, ac fe greodd gwmni theatraidd a ddaeth mor enwog fel y denwyd Dame Sybil Thorndike ar ymweliad.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafwyd cynulleidfaoedd enfawr. Rheolwr y Llwyfan oedd Jack Howarth a gymerodd rhan Albert Tatlock yn Coronation Street yn ddiweddarach. Oherwydd gwaeledd, bu’n rhaid i Stanley adael y cwmni ym 1958 a daeth y cwmni i ben. Symudodd i fyw mewn fflat yn Ffordd Rhiw a bu farw ym 1960 yn 77 mlwydd oed.
Jules Prudence Riviere
Cyflwynwn y gŵr yma o Baris a ddaeth i fyw i Fae Colwyn, i’r stryd a enwyd ar ei ôl. Symudodd yn ddiweddarach i Landudno lle cynhyrchwyd perfformiadau cerddorol gwych ganddo ar y Pier.
Sicrhawyd y Maestro i berfformio gyda’i gerddorfa i gynulleidfaoedd o hyd at 2,500 ym 1900. Cynhaliwyd cyngerdd mawreddog ar y Pier ym Mae Colwyn ar 2il Mehefin 1900. Cyffrowyd y gynulleidfa enfawr gan Jules Riviere a’i Gerddorfa gyda pherfformiad gan Fadam Adelina Maria Clorinda Patti. O, mor fendigedig byddai cael cerddorfa fel hon ar y Pier heddiw, a Jules wedi cyfrannu gymaint i hanes Bae Colwyn. Bu farw ar 26ain Rhagfyr 1900, ac fe’i claddwyd ym Mynwent Eglwys Llandrillo yn Rhos lle gwelir ei fedd hyd heddiw.
Rev W Venables Williams
Pan gafodd ei benodi yn Ficer Llandrillo yn Rhos ym 1869 nid oedd y fath le a Bae Colwyn yn bodoli, gyda Phlwyf y Rhos yn ymestyn, ar yr adeg hynny, o Lan Conwy i Barc Eirias. Poblogaeth yr ardal ar y pryd oedd oddeutu 900!
Erbyn 1871, roedd y dreflan newydd yn dechrau tyfu o gwmpas Arosfa Rheilffordd Pwllycrochan, a ddaeth, yn ddiweddarach, i fod yn Orsaf Rheilffordd Bae Colwyn. Yma, yn y rhan newydd o’i Blwyf, dechreuodd y Parchedig Williams ar ei waith o ddatblygu gweithgareddau cymdeithasol a dinesig. Dechreuodd cynnal Gwasanaethau Anglicanaidd mewn gweithdy saer coed yn Ivy Street. Roedd 70 yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ar 18fed Mehefin 1871. Blwyddyn yn ddiweddarach, agorodd capel ar safle presennol Eglwys St Paul. Bwrdd Gwarcheidwaid Conwy oedd yn gyfrifol am y gweithgareddau a bu Venables Williams yn rhan ohono am 25 mlynedd, ar adegau fel Cadeirydd.
Yn ogystal â’i ddyletswyddau clerigol, bu Venables Williams yn weithgar iawn yn wleidyddol, gan lwyddo i ddileu’r system trethiant ffiaidd Conwy yn ogystal â chyhuddo Cymdeithas Feddygol Deddf y Tlodion o orbrisio! O ganlyniad i hyn, bu gostyngiad sylweddol ym mhris y feddyginiaeth i’r tlodion. Hefyd, ym 1871, o ganlyniad iddo gael trethiant llawn i’r Rheilffordd, cafwyd gostyngiad yn y trethi lleol o 5/1c i 2/3c. Ym 1886, fodd bynnag, llosgwyd y Capel gan Derfysgwyr y Degwm Mochdre, gan greu lle i adeiladu Eglwys St Paul. Parhaodd Venables Williams i fod yn weithgar ar nifer o gyrff oedd yn gysylltiedig â thyfiant Bae Colwyn ac felly gallem ddweud ei fod nid yn unig yn glerigwr nodedig, ond ei fod hefyd yn rhan o ddatblygiad y gymuned – patrwm ymddwyn da i glerigwyr heddiw!
William Davies
Bu farw’r ar 27ain Gorffennaf 1593. Roedd yn offeiriad Cymraeg yn yr Eglwys Gatholig. Cafodd ei wneud yn ferthyr Catholig ac fe’i gwynfydwyd ym 1987. Fe adeiladwyd capel ar Ynys Môn er cof amdano. Ganwyd Davies yng Ngogledd Cymru, mae’n debyg yng Nghroes yn Eirias, yn Sir Ddinbych ond nid yw dyddiad ei eni yn hysbys. Mae un ffynhonnell, fodd bynnag yn awgrymu 1555. Credir mai Croes yn Eirias yw’r hen enw am yr anheddau yn ardal rhwng Llanelian a Bae Colwyn. Mae Ffordd y Groes (Groes Road) yn arwain at Eglwys Llanelian. Gyda’i noddwr Robert Pugh, cynhyrchodd, yn gyfrinachol, y llyfr “Y Drych Christianogawl”, a dywedir mai hwn yw’r llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru. Efallai mai mewn ogof uwchben y môr ar benrhyn Trwyn y Fuwch (Rhiwledyn) rhwng Llandudno a Bae Penrhyn oedd y wasg.
Richard Salisbury Ellis CBE FRS
Ganwyd ar 25ain Mai 1950, ym Mae Colwyn, Cymru ac ef yw Athro Steele Seryddiaeth yn Sefydliad Technoleg California (Caltech). Enillodd Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 2011.
Angela Hazeldine
Ganwyd ar 2il Gorffennaf 1981 ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru. Mae’n actores a chantores Brydeinig, yn enwog am chwarae Gemma Craig yn opera sebon Sianel Pump Familv Affairs. Cymerodd Hazeldine ran Gemma Craig yn Familv Affairs am bedair blynedd. Mae hefyd wedi ymddangos mewn penodau o Kavanagh QC, Heartbeat, The Royal Today a Doctors. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf Kapital, cydweithrediad yn 2007 rhwng yr awdur / cyfarwyddwr Greg Hall a’r cyfansoddwr Steve Martland.
John Reginald “Reg” Hunter
Ganwyd ar 25ain Hydref 1938. Pêl-droediwr dros Gymru, ei brif safle yn ymosodwr.
Fe’i ganwyd ym Mae Colwyn, Sir Ddinbych (Conwy erbyn hyn). Chwaraeodd dros Bae Colwyn, Manchester United, Wrecsam a Dinas Bangor.
William “Billy” Morris
(30 Gorffennaf 1918 – 31 Rhagfyr 2002). Chwaraeodd pêl-droed rhyngwladol dros Gymru fel mewnwr. Roedd yn rhan o dîm Burnley a gollodd o 0-1 i Charlton Athletic yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA ym 1947. Enillodd Morris gyfanswm o bum cap dros y tîm pêl-droed cenedlaethol.
Yn dilyn ei ymddeoliad, cafodd Morris dau gyfnod fel rheolwr Wrecsam. Ei nai yw cyn-ymosodwr Wrecsam a Dinas Caer, Elfed Morris.
Cyril Sidlow
(26 Tachwedd 1915 – 12 Ebrill 2005) Gôl-geidwad Cymru. Chwaraeodd i nifer o glybiau, yn bennaf Wolverhampton Wanderers a Lerpwl. Fe’i ganwyd ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru. Chwaraeodd Sidlow i Landudno, Bae Colwyn a Wolverhampton Wanderers. Fe’i harwyddwyd i Wolves gan yr enwog Major Frank Buckley. Sidlow oedd dewis cyntaf Wolves cyn ag ar ôl y rhyfel.
Michael “Mike” Walker
Ganwyd 21 Ebrill 1966. Mae’n gyn-chwaraewr tenis proffesiynol o Gymru a gystadlodd dros Brydain Fawr a Hong Kong. Magwyd Walker ym Mae Colwyn a derbyniodd cerdyn gwyllt i Bencampwriaeth Wimbledon ym 1986 gan golli ei gêm yn y rownd gyntaf mewn pump set i Claudio Mezzadri o’r Swistir. Dychwelodd i Wimbledon y flwyddyn ganlynol, y tro yma i gystadlu fel partner i Stephen Botfield yng nghystadleuaeth dyblau’r dynion. Cafodd y pâr eu curo gan Glenn Layendecker a Glenn Michibata yn y rownd gyntaf. Roedd yn aelod o dîm Cwpan Davis Prydain Fawr ym 1987, er na chafodd ei ddewis i chwarae gêm. Ym Mhencampwriaeth Wimbledon ym 1988 cystadlodd fel partner i Joy Tacon yn y dyblau cymysg, ond unwaith eto, methodd a chyrraedd yr ail rownd.
Cymeriad Chwedlonol – Madog ab Owain Gwynedd
I’r rhai sy’n chwilio am dreftadaeth Unol Daleithiau America, does dim angen edrych ymhellach na Landrillo yn Rhos. O’r fan yma, yn ôl chwedloniaeth, yr ymadawodd y Tywysog Cymreig hwn ar ei fordaith i Mobile, Alabama UDA ym 1170.
Rhoddwyd fwy o sylw i’r chwedloniaeth yma yng nghyfnod Elisabeth, gan arwain at y gred bod Madog a’i longwyr wedi cydbriodi a’r Americaniaid brodorol, gyda disgynyddion yn parhau i fyw yna ac yn siarad Cymraeg fel Indiaid Cymreig!
Felly pan yr ydych yn America – chwiliwch allan am Indiaid Bae Colwyn!.