Neuadd y Dref / Llogi Ystafelloedd
Mae Neuadd y Dref efo toiledau i’r rhai gydag anableddau a mynediad ramp ar ochr yr adeilad. Mae cyfleusterau’r gegin ar gael, yn cynnwys llestri, ond rhaid i chi ddod a pharatoi eich lluniaeth eich hun.
Prisiau
Mae’r prisiau yn seiliedig fesul sesiwn; gall sesiwn fod yn fore, prynhawn neu fin nos:
Ystafell Bwyllgor – £20 am bob sesiwn
Ystafell Cyfarfod Fechan – £20 am bob sesiwn
Siambr y Cyngor – £30 am bob sesiwn
Mae’r ystafelloedd ar gael yn rhad ac am ddim i grwpiau gwirfoddol ag elusennol ar yr amod nad ydynt yn codi tal am y gwasanaethau a gynigir ganddynt.
Ystafelloedd ar gael i’w Llogi
Yr Ystafell Bwyllgor
Mae yna le i 20 o bobl eistedd yn yr Ystafell Bwyllgor a cheir mynediad ati gan ddefnyddio’r lifft a leolir yn Siambr y Cyngor. Panelau hardd o goed derw sydd ar waliau’r ystafell ac mae’r ffenestr blwm fae mawr yn edrych allan ar Eglwys St Paul. Mae’r llenni ar y ffenestr yn galluogi’r ystafell i gael ei ddefnyddio i arddangos sleidiau.
Yr Ystafell Cyfarfod Fechan
Fe leolir yr Ystafell Cyfarfod Fechan y tu cefn i Neuadd y Dref ac mae’n ddelfrydol ar gyfer hyd at 20 o bobl. Defnyddir yr ystafell fe arfer ar gyfer cyfarfodydd busnesau bach neu at wersi. Mae’n hawdd mynd ati ac yn agos at y mynediad i’r rhai gydag anableddau.
Siambr y Cyngor
Mae yna le i 60 o bobl i eistedd yn Siambr y Cyngor. Mae’r ystafell yn dal i gadw llawer o nodweddion ei ddefnydd blaenorol sef ystafell llys. Mae System Sain Gynadleddau ac offer Cyfieithu ar gael yn yr ystafell hon, ond chi fydd yn gyfrifol am gael eich cyfieithydd. Mae ffenestri mawr yn yr ystafell ac er i lenni cael eu gosod trostynt, nid yw yn safle da i arddangos sleidiau yn ystod y dydd.
For more information or details of availability please contact: Ros Dudley (Secretary)