Colwyn yn ei Blodau

Mae Bae Colwyn wedi bod yn llwyddiannus iawn efo cystadlaethau Colwyn yn ei Blodau, Cymru yn ei Blodau a Phrydain yn ei Blodau ers 2000.

Yn swyddogol, y dref yw’r ‘Tref Fawr Gorau yng Nghymru’ (ac wedi bod am ddeuddeng mlynedd yn olynol, o 2002 – 2013*) a chafodd y dref ei enwebu i gynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Prydain yn ei Blodau yn 2004, 2008. 2010, 2013 a 2014.

OLYMPUS DIGITAL CAMERAMae Pwyllgor Colwyn yn ei Blodau yn cynnwys swyddogion o lywodraeth leol ynghyd â gwirfoddolwyr yn cynrychioli amryw o grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn materion yn ymwneud â garddwriaeth ac / neu’r amgylchedd. Mae’r pwyllgor wedi datblygu cynllun busnes tair blynedd ar gyfer Colwyn yn ei Blodau, sy’n helpu i roi arweiniad ar weithgareddau, yn sicrhau bod y pwyllgor yn gweithio i’w lawn botensial, yn ymestyn allan i dargedau allweddol ac yn parhau i fod yn gystadleuol.

Trwy ddatblygu amgylcheddau o ansawdd uchel er lles y gymuned leol, mae Colwyn yn ei Blodau yn ceisio annog twristiaeth; cynyddu’r nifer o ymwelwyr ac felly yn creu cyflogaeth a lleihau troseddu ag ymddygiad gwrth cymdeithasol.

OLYMPUS DIGITAL CAMERAMae Colwyn yn ei Blodau yn gorff gwirfoddol wedi’i chyfansoddi’n llawn. Mae’n cael cefnogaeth lawn gan Gyngor Tref Bae Colwyn ac atynt hwy fe wneir ceisiadau rheolaidd am gyllid craidd blynyddol. Mae hyn yn helpu i gyllido plannu cynaliadwy, arddangosfeydd blodau, cerfluniau helyg a gwelliannau amgylcheddol eraill o gwmpas ardal Bae Colwyn, sy’n ymestyn o Hen Golwyn yn y dwyrain i Landrillo yn Rhos yn y gorllewin a hyd at Fryn y Maen yn fewndirol. Mae Cyngor Bwrdeistrefol Sir Conwy a Rheolaeth Tref Bae Colwyn hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch.

Mae yna o hyd croeso i fusnesau lleol fod yn noddwyr ac mae amryw o lefelau noddi yn cael eu hystyried ar gyfer ymgyrch 2014. Cysylltwch â’r Ysgrifennydd am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda, (manylion i’w gweld isod) 

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cystadlaethau blynyddol i annog busnesau lleol, trigolion, eglwysi ayb i baratoi arddangosfeydd blodeuol o flaen eu hadeiladau a chystadleuaeth paentio a chynllun gwobrwyo i gysylltu â phlant ysgolion lleol.

Mae enillwyr y gwahanol ddosbarthiadau yng nghystadleuaeth Colwyn yn ei Blodau 2013 ar gael i’w gweld yma.

Ffurflenni Cais 2014 ar gyfer Colwyn yn ei Blodau a Basgedi Crog

Cewch wneud cais ar gyfer Colwyn yn ei Blodau 2014 rŵan – trwy lawr lwytho Ffurflen Gais Colwyn yn ei Blodau

Cewch wneud cais hefyd ar gyfer Basgedi Crog 2014 rŵan – trwy lawr lwytho Ffurflen Gais Basgedi Crog

Am fwy o wybodaeth am Golwyn yn ei Blodau, cysylltwch â Tina Earley, os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd Pwyllgor Colwyn yn ei Blodau, ar 01492 532248 neu drwy e-bost ar: [email protected]

* Enillodd Bae Colwyn categori ‘y Dref Gorau’ yn 2005 pan newidiwyd meini prawf y boblogaeth dros dro gan Gymru yn ei Blodau.