Cyngor Tref

Cyngor Tref Bae Colwyn
Cefndir
Daeth y Cyngor Tref i fodolaeth ym 1996, yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol pan ddiddymwyd Cyngor Sir Clwyd a Chyngor Bwrdeistref Colwyn. Crëwyd Awdurdod Unedol dan yr enw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac fe grëwyd Cyngor Cymuned newydd sef Cyngor Tref Bae Colwyn ar gyfer cymunedau Hen Golwyn, Bae Colwyn (yn cynnwys Bae Colwyn Uchaf a Bryn y Maen) a Llandrillo yn Rhos. Mae’r Cyngor yn un o oddeutu 730 o Gynghorau Cymuned yng Nghymru a hwy yw’r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y cymunedau maent yn gwasanaethu. Cyflwynir y mwyafrif o wasanaethau lleol, yn cynnwys yr Amgylchedd, Priffyrdd, Addysg, Trwyddedu, Cynllunio a Gwasanaethau Cymdeithasol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ymwelwch â gwefan y Cyngor Sir ar www.conwy.gov.uk am fwy o wybodaeth neu ymholiadau.
Mae gan y Cyngor Tref 24 o aelodau ac fe gynhelir etholiadau pob 4/5/mlynedd, Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ym Mai 2017. Am resymau etholiadol, fe rannwyd yr ardal yn ddarnau llai sef Wardiau. Mae ardal Bae Colwyn yn cynnwys chwech o wardiau fel a ganlyn:
Colwyn Hen Golwyn, Penmaenhead yn y dwyrain i Beach Road
Eirias Hen Golwyn, Beach Road i Ffordd Elian, Bae Colwyn
Glyn Bae Colwyn, Parc Eirias i Woodlands Road East, yn cynnwys ystâd Glyn a rhannau o Nant y Glyn
Rhiw Bae Colwyn, Woodlands Road East i Ebberston Road East, yn cynnwys Bae Colwyn Uchaf a Bryn-y-Maen
Dinarth Llandrillo yn Rhos, rhan deheuol a gorllewinol Rhodfa Brompton / Ffordd Llandudno
Rhos Llandrillo yn Rhos, rhan ogleddol a dwyreiniol Rhodfa Brompton / Ffordd Llandudno
Cewch ymweld â thudalen y Cynghorwyr gan ddefnyddio’r cyswllt ar y chwith / uchod i gael manylion cyswllt am eich Cynghorwyr lleol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn gynghorydd, cysylltwch â’r Cyngor Tref.
Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn cyflogi staff o bedwar: Clerc y Dref (llawn amser), y Clerc Cynorthwyol / Ysgrifennydd y Maer (rhan amser), Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol (rhan amser) a Glanhawr / Gofalwr Neuadd y Dref (rhan amser).
Cliciwch yma i gael manylion am Bolisi Cyflog y Cyngor.
Maer y Dref:
Pob blwyddyn, yn ei Gyfarfod Blynyddol ym Mai, bydd y Cyngor yn ethol Cadeirydd. Y Cadeirydd sy’n dal y swydd o Faer y Dref am y flwyddyn ddilynol.
Fe wahoddir y Maer i nifer o ddigwyddiadau lleol yn ystod y flwyddyn, i gefnogi’r nifer helaeth o’n mudiadau gwirfoddol gweithgar. Maer y Dref am 2017/18 yw’r Cynghorydd Jeff Pearson. Os hoffech gysylltu â’r Maer neu ei wahodd i achlysur / digwyddiad, gallwch gysylltu â Mrs Roz Dudley, Ysgrifenyddes y Maer ar 01492 532248, neu trwy e-bost i [email protected]
Bydd y Cyngor yn ethol Dirprwy Faer hefyd i gymryd y swydd pan nad yw’r Maer ar gael.
Strwythur y Cyngor:
Fe draddodir y mwyafrif o fusnes y Cyngor trwy Strwythur o Bwyllgorau. Fe gynhelir cyfarfodydd y ddau brif Bwyllgor, y Pwyllgor Amcanion Cyffredinol a Chynllunio pob tair wythnos a’r Pwyllgor Polisi a Chyllid pob chwe wythnos. Fe benodir Is-Bwyllgorau hefyd ar gyfer gweithgareddau penodol, megis Goleuadau’r Nadolig a Gwobrwyo Gwirfoddolwyr. Bydd y Cyngor llawn yn cyfarfod unwaith pob chwe wythnos i ystyried penderfyniadau ag argymhellion y Pwyllgorau. Fel arfer, fe wahoddir siaradwr gwadd i gyfarfodydd y Cyngor llawn.
Adroddiad Blynyddol
Mae’r Cyngor yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ysgrifenedig sy’n crynhoi ei weithgareddau yn ystod I flwyddyn drefol flaenorol.
Cliciwch yma i weld Adroddiad Blynyddol 2018-2019.
Cynllun Corfforaethol
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn crynhoi prif ddyheadau’r Cyngor am y cyfnod presennol o fod yn y swydd ac yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni hyn.
Cliciwch yma i weld Cynllun Corfforaethol 2018-2022.
Adroddiad Blynyddol
Mae’r Cyngor yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ysgrifenedig sy’n crynhoi ei weithgareddau yn ystod y flwyddyn ddinesig ddiwethaf.