Grantiau ar Gael ac Ymddiriedolaethau Lleol
Grantiau Back, Llesiant a Mawr
Mae’r Cyngor Tref yn rhoi nifer o grantiau bob blwyddyn. Mae’r rhain yn amrywio o grantiau bach o £100 – £500 ar gyfer gwariant refeniw, digwyddiadau bach ac ati, grantiau llesiant o £501 – £2000 a grantiau mawr dros £2000 ar gyfer prosiectau penodol, neu ar gyfer prynu eitemau mwy er budd y gymuned leol.
Rhaid i’r Cyngor dderbyn pob cais am dros £2000 erbyn 31 Rhagfyr yn flynyddol. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried ym mis Ionawr gyda grantiau llwyddiannus yn cael eu dosbarthu yn y flwyddyn ariannol ganlynol (ar ôl 1 Ebrill).
Bydd ceisiadau o £2000 a llai yn cael eu hystyried yn chwarterol. Gall cronfeydd grantiau eraill fod ar gael o bryd i’w gilydd hefyd ar gyfer grwpiau neu ddibenion penodol, megis grantiau am Ddigwyddiadau neu Grantiau Ieuenctid (gweler isod).
Mae’r pecynnau cais am grantiau bach, llesiant a grantiau mawr ar gael i’w lawrlwytho yma:
FORM AN ON-LINE SUBMISSION FORM PLEASE CLICK THE HERE.
Grantiau Leuenctid
Mae Cyngor Tref Bae Colwyn wedi dyrannu £5,000 o’i gyllideb flynyddol i helpu i gefnogi prosiectau / gweithgareddau ieuenctid yn 2022, ar gyfer pobl ifanc yn ardal Bae Colwyn (Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Bae Colwyn Uchaf a Hen Golwyn).
Gwahoddir ceisiadau yn awr gan grwpiau / sefydliadau lleol sy’n ceisio cymorth ariannol (cyfalaf neu refeniw) ar gyfer prosiectau, gweithgareddau neu ddigwyddiadau a fydd o fudd penodol i bobl ifanc hyd at 25 oed.
Mae ffurflen gais ac arweiniad i ymgeiswyr ar gael ar gais o Neuadd y Dref, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn (ffôn: 01492 532248 / e-bost: [email protected]), a gellir ei lawr lwytho isod.
Meini Prawf Grantiau Ieuenctid
Ffurflen Ariannu Grant – Grantiau Ieuenctid
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Llun 31ain Ionawr.
Grantiau am Ddigwyddiadau
Ar hyn o bryd mae Cyngor Tref Bae Colwyn yn gofyn am geisiadau gan fudiadau eraill sydd angen cyllid i gynnal digwyddiad, gŵyl neu weithgaredd diwylliannol a fydd a’r potensial i ddenu ymwelwyr i ardal Bae Colwyn. (Bae Colwyn, Hen Golwyn a Llandrillo yn Rhos).
Rhaid i’r digwyddiad(au) gymryd lle yn ardal Bae Colwyn, i fod ar agor i’r cyhoedd a gyda’r potensial i ddenu nifer sylweddol o ymwelwyr. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod ganddynt brofiad llwyddiannus o gynhyrchu digwyddiadau, neu fod yn barod i ac yn gallu gweithio mudiad arall sy’n gallu gwneud hyn.
Fe glustnodwyd cyfanswm o £20,000 gan y Cyngor Tref gan obeithio bydd hyn yn ddigon i ddenu nifer o ddigwyddiadau. Yr uchafswm sydd ar gael i unrhyw ddigwyddiad yw £5,000 ac fe anogir ymgeiswyr am ddigwyddiadau mwy i geisio cyllid ychwanegol o ffynhonnau eraill.
Cronfeydd Ymddiriedolaeth
Mae’r Cyngor Tref yn penodi Ymddiriedolwyr i amryw o Gronfeydd Ymddiriedolaeth leol a all fod o fudd i bobl sy’n byw yn ardal Bae Colwyn. Ceir manylion byr am bob un ohonynt isod.
Cronfa Ymddiriedolaeth Syr John Henry Morris Jones
Bydd Ymddiriedolwyr y Gronfa yn gofyn am geisiadau pob blwyddyn oddi wrth bobl ifanc dan 19 mlwydd oed ar 31ain Mawrth (dyddiad cau ceisiadau) ac yn byw yn ardal hen Fwrdeistref Bae Colwyn fel ag y bu ar 31ain Mawrth 1974 h.y. Bae Colwyn, Llandrillo yn Rhos, Hen Golwyn, Mochdre a Llysfaen. Y bwriad fydd gwneud dyfarniad neu ddyfarniadau i bobl sy’n gymwys ac sy’n cyfarfod canllawiau’r Ymddiriedolwyr. Bydd cyfanswm yr hyn y gellir ei ddosbarthu yn newid o flwyddyn i flwyddyn oherwydd newidiadau yn y graddfeydd llog ar Falans y Cyfalaf. Rhaid i ymgeiswyr bodloni’r ymddiriedolwyr mewn cyfweliad personol, o raddfa eu rhagoriaeth yn y meysydd canlynol:
- Celf, Crefft a Cherddoriaeth
- Chwaraeon
- Academaidd ag Ymchwil
- Masnach a Busnes
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Unrhyw faes arall bydd yr ymgeiswyr yn teimlo bydd yn cyfarfod anghenion yr Ymddiriedolwyr.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn unol ag ewyllys y diweddar Syr John Henry Morris Jones M.C., D.L., Y.H. a fu’n Meddyg yn y Dref am lawer o flynyddoedd. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol dros Ddinbych o 1929 tan 1950, ac fe wnaed yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus o Fwrdeistref Bae Colwyn ym 1956. Dymuniad Syr Henry oedd bod enillion ei gymynrodd yn cael ei ddefnyddio er budd pobl ifanc hen Fwrdeistref Bae Colwyn. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd mewn addysg llawn amser neu yn gweithio yn llawn amser y tu allan i’r Fwrdeistref, ond sydd a’u cartrefi arferol y tu mewn i ardal hen Fwrdeistref Bae Colwyn. Mae telerau Gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth yn datgan na fydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried ceisiadau am gyrsiau lefelau Addysg Uwch neu Addysg Bellach.
Cynhelir y cyfweliadau ym mis Mai ac fe gyhoeddir y canlyniadau mewn seremoni briodol, fel arfer ym Mehefin. Mae ffurflenni cais ar gael yma a rhaid eu dychwelyd erbyn 31ain Mawrth.
Cronfeydd Ymddiriedolaeth
Mae’r Cyngor Tref yn penodi Ymddiriedolwyr i amryw o Gronfeydd Ymddiriedolaeth leol a all fod o fudd i bobl sy’n byw yn ardal Bae Colwyn. Ceir manylion byr am bob un ohonynt isod.
Elusennau Hynafol Llandrillo yn Rhos
Ardal Elusennau Llandrillo yn Rhos yw hen Fwrdeistref Bae Colwyn h.y. cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, heb gynnwys Llysfaen (sydd ag Elusen William Butler), ond sydd yn cynnwys plwyf Bryn y Maen. Yn y gorffennol, cyfunwyd y tair elusen hynafol ac fe ddosbarthwyd symiau bychan i’r rhai oedd mewn angen ar adeg y Nadolig ond yn ddiweddar mae’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi cinio blynyddol i bensiynwyr yr ardal.
Elusen Addysgiadol Edwards.
Mae gan Ymddiriedolwyr yr Elusen yr hawl, yn unol â thelerau’r Ymddiriedolaeth, i roi grantiau i rieni disgyblion mewn Ysgolion Cynradd sydd o fewn dalgylch yr Elusen sy’n symud o Ysgol Gynradd i un o’r Ysgolion Uwchradd ar ddiwedd y tymor presennol, ac efallai bod arnynt angen cymorth ariannol tuag at y costau ychwanegol a achosir ar yr adeg yma. Bydd pob Ysgol Gynradd o fewn y dalgylch yn derbyn llythyr ynglŷn â’r Ymddiriedolaeth yn ystod Tymor yr Haf. RHAID i’r ceisiadau ysgrifenedig cael eu derbyn oddi wrth Benaethiaid yr Ysgolion yn unig, ar ran eu disgyblion. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chronfeydd yr Ymddiriedolaethau uchod, cysylltwch â Chlerc y Dref os gwelwch yn dda gan ddefnyddio tudalen ‘ Cyswllt’ ar y wefan hon.