Gwybodaeth Leol

Mae Bae Colwyn ar arfordir Gogledd Cymru yn cynnwys tref Bae Colwyn a chymunedau cyfagos Hen Golwyn i’r dwyrain a Llandrillo yn Rhos i’r gorllewin gan ymestyn yn fewndirol trwy Goedwig Pwllycrochan i gynnwys Bae Colwyn Uchaf a phentref Bryn y Maen.

Colwyn Bay

Mae lleoliad Bae Colwyn hanner ffordd ar hyd Arfordir Gogledd Cymru yn ddelfrydol gyda chysylltiadau cludiant da a gwasanaethau aml ar fws a thrên a mynediad hawdd efo modur o ffordd ddeuol yr A55.

Gallwch bori trwy’r ddewislen ar y chwith i ddarganfod mwy am ein hanes, diwylliant, amgylchedd, y mannau gwerthu ag atyniadau i ymwelwyr, ynghyd â ffeithiau diddorol am bobl enwog gyda’u gwreiddiau ym Mae Colwyn.