Gefeillio

Mae’r ardal wedi gefeillio gyda Roissy-en-Brie, tre Ffrengig 20km i’r dwyrain o Baris ac mae gennym ddolen cyfeillgarwch gyda Barmstedt, tref Almaeneg ger Hamburg.

Bu’r Gymdeithas yn bodoli ers dros 25 mlynedd ac mae wedi ffurfio cyfnewidiadau diwylliannol gyda’r ddwy dref. Croesawyd dau gôr o Roissy-en-Brie am wythnos gan Gôr Bro Aled, Llansannan yn 2009 yn dilyn ymweliad llwyddiannus iawn i Roissy-en-Brie. Daeth grŵp o ddawnswyr ifanc o Ffrainc i ymweld â Choleg Llandrillo lle buont yn perfformio gyda myfyrwyr lleol. Mae grwpiau Dawnsio Gwerin wedi bod ar ymweliad ac wedi perfformio ar Bromenâd Cayley a thu allan i Ganolfan Bay View.

Mae rhedwyr o Roissy-en-Brie a Barmstedt wedi ffurfio cysylltiad gydag Abergele Harriers ac wedi cymryd rhan mewn rasys yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Marathon Eryri. Mae aelodau o Abergele Harriers wedi rasio yn Marne la Vallee a Provence gydag athletwyr o Roissy-en-Brie. Mae aelodau’r Gymdeithas wedi mwynhau ymweliadau i Farchnadoedd Nadolig yn Roissy-en-Brie a Barmstedt.

Yn 2011, dechreuwyd ar ddathlu’r 25ain pen-blwydd dros benwythnos y Pasg, pan ddaeth grŵp o ymwelwyr o’r Almaen a Ffrainc i aros gyda theuluoedd yn ein hardal. Cafwyd cinio i 100 o westai a gwestywyr yn Abergele ar Sul y Pasg ac fe ddilynwyd hyn gydag ymweliad â Chonwy a Llandudno. Yn Nhachwedd, aeth grŵp o’n hardal ni i Ffrainc am benwythnos fel gwestai i Gymdeithas Gefeillio Roissy-en-Brie. Yn ogystal â mwynhau’r ciniawa dathliadol a gwibdeithiau, cawsom y pleser mwyaf o ymweld â Thŷ Opera Paris.

Bu ymwelwyr o Ffrainc yn dathlu penwythnos Gŵyl y Banc gyda ni yma yn 2013, gydag ymweliadau â’r Ecstrafagansa Fictoraidd yn Llandudno, Plasty Erddig a Thraphont Pontcysyllte.

Rydym yn croesawu ymwelwyr o Ffrainc a’r Almaen yn rheolaidd ac mae cynlluniau ar y gweill am fwy o ymweliadau â’r trefi hyn. Dyma ffordd ardderchog i wneud ffrindiau newydd.

Os hoffech fod yn rhan o weithgaredd gefeillio, yna cysylltwch â’n hysgrifennydd am fwy o wybodaeth:
Mr Brian Whittingham
Ffôn:01492 549932
E-bost: [email protected]

Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod ar y nos Fercher 1af ym mhob mis am 7pm yn Neuadd y Dref, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn. Mae croeso i bawb i’r Cyfarfodydd ac, os hoffech ymaelodi, y tanysgrifiad blynyddol yw £4 am aelodaeth sengl, £8 am aelodaeth teulu a £12 i fudiadau.