Y Maer 2025/26

Cyngor Tref Bae Colwyn yn Croesawu Maer a Dirprwy Faer Newydd ar gyfer 2025/26

Mae Cyngor Tref Bae Colwyn yn falch o gyhoeddi etholiad y Cynghorydd Jo Nuttall yn Faer newydd y Dref ar gyfer 2025/26, yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai. Yn cefnogi’r Cynghorydd Jo yn y flwyddyn nesaf bydd y Cynghorydd Greg Wynne, sydd wedi’i ethol yn Ddirprwy Faer.

Mae’r Maer yn cael ei ethol yn flynyddol ac yn dal swydd Cadeirydd Cyngor y Dref. Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Maer yn cynrychioli Bae Colwyn mewn ystod eang o ddigwyddiadau dinesig a chymunedol, gan helpu i ddathlu a chefnogi’r nifer o grwpiau a sefydliadau gwirfoddol bywiog ledled y dref.

Mae’r Cynghorydd Jo Nuttall yn cymryd yr awenau gan y Cynghorydd Ricki Owen, a wasanaethodd fel Maer ar gyfer 2024/25. Hoffai’r Cyngor estyn ei ddiolch diffuant i’r Cynghorydd Owen am ei ymroddiad, ei egni a’i ymrwymiad i’r rôl dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwahodd y Maer i fynychu digwyddiad neu swyddogaeth gysylltu â Roz Dudley, Ysgrifennydd y Maer, ar 01492 532248 neu drwy e-bost ar [email protected].