Gwasanaethau’r Cyngor
Mae Cyngor Tref Bae Colwyn yn cynrychioli rhan fechan o’r Sir, yn cynnwys Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Bae Colwyn Uchaf a Hen Golwyn. Mae ganddo awdurdod cyfreithiol i gyflwyno rhai gwasanaethau i’r gymuned leol, ond dim gymaint o ddyletswyddau. Mae’r Cyngor Tref yn gweithio’n agos iawn gyda’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, gan gynrychioli diddordebau’r gymuned leol er mwyn sicrhau bod y bobl leol yn derbyn y gwasanaethau a’r canlyniadau gorau.
Dyma restr fer o rai o’r gwasanaethau a gyflwynir ar hyn o bryd gan y Cyngor Tref:
- hysbysfyrddau gwybodaeth gyhoeddus
- seddau cyhoeddus a llochesi bws
- cofebion rhyfel
- ystafelloedd cyfarfod Neuadd y Dref
- goleuadau’r Nadolig
Mae’r Cyngor Tref yn gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i gyflwyno ac / neu i gefnogi llawer o atyniadau a digwyddiadau lleol, yn cynnwys Theatr Colwyn, y Noson Tân Gwyllt blynyddol a Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio. Mae hefyd yn cyfrannu cyllid grant tuag at ddigwyddiadau lleol o bwys, yn cynnwys Gŵyl y 1940au, Mynediad i Bawb i Eirias a Diwrnod y Prom, yn ogystal â llawer o ddigwyddiadau cymunedol llai. Hefyd, fe roddir cymorth ariannol pob blwyddyn i nifer o glybiau neu fudiadau sy’n cynnig gwasanaethau i drigolion ardal Bae Colwyn. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cyllid grant sydd ar gael ewch i dudalen Grantiau os gwelwch yn dda.
Os bydd gennych unrhyw sylwadau neu bryderon am wasanaethau lleol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda trwy ddefnyddio’r tudalen Cyswllt. Fel arall gallwch siarad gydag un o’ch cynghorwyr lleol (gweler tudalen Cynghorwyr am fanylion Cyswllt).
Ffurflen Flynyddol
Pob blwyddyn, mae’n ofynnol i gynghorau lleol ung Nghymru cwblhau Ffurflen Flynyddol, yn crynhoi ei sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y ffurflen hon, ynghyd a’r datganiad cyfrifon cysylltiedig, yn destun archwiliad mewnol ag allanol. Cliciwch yma os ydych eisiau gweld y Ffurflen Ariannol diweddar a gafodd ei archwilio.
Mae’r Cyngor yn cynhyrchu (Adroddiad Blynyddol) ysgrifenedig sy’n crynhoi ei weithgareddau yn ystod y flwyddyn drefol a aeth heibio.