Cyllid newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer 2019/20

Mae Cronfa Ragoriaeth Conwy’n darparu cyllid i unigolion sy’n byw yng Nghonwy sy’n dalentog mewn chwaraeon, addysg a’r celfyddydau. Pwrpas y cynllun yw helpu unigolion i gyflawni eu potensial drwy hyfforddiant a datblygiad. Mae grantiau ar gael i bobl ym myd chwaraeon sy’n cystadlu ar lefel genedlaethol ac sydd angen cyllid ar gyfer costau hyfforddi.

Bydd y ffurflen gais ar gael o 5 Ebrill 2019. Gweler y dogfennau amgaeedig isod ar gyfer y canllawiau newydd a mwyaf diweddar yn ogystal â’r meini prawf a’r dyddiadau perthnasol.

Dyddiad Cau: 25 Hydref 2019.
Cyfarfod nesaf: 21 Tachwedd 2019.