Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf |
Fel rhan o becyn cymorth ehangach o dros £50m i fynd i’r afael â phwysau ar gostau byw ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
Ar 1 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol estyniad i’r cymorth i aelwydydd drwy ddyblu’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf gan gynyddu’r taliad o £100 i £200. Bydd hyn ar gael i ymgeiswyr newydd ac yn cael ei ôl-dalu i’r rhai sydd wedi gwneud cais eisoes. Fel rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio ar eich sianeli cyfathrebu i’n helpu i rannu’r neges â chynulleidfaoedd, gan wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r cynllun a sut i wneud cais. Felly rydym wedi casglu pecyn o adnoddau i’ch helpu i rannu negeseuon am y ‘Cynllun cymorth tanwydd gaeaf’ â’ch cynulleidfaoedd. |