Ar ddydd Mawrth, 4ydd Mehefin, roedd yn bleser o’r mwyaf i’r Cynghorydd Merrill Jones, Dirprwy Faer Bae Colwyn, derbyn gwahoddiad i gyflwyno grantiau, ar ran Ymddiriedolwyr Cronfa Ymddiriedolaeth  Syr John Henry Morris Jones, i ddeg o bobl ifanc talentog o ardal Bae Colwyn.
 
Y rhai a wobrwywyd gan yr Ymddiriedolaeth eleni yw:- Sophie Mae Brown (Nofio), James Greene (Theatr), Gregory Hopkins (Beicio Mynydd), Thomas William Roscoe (Hoci), Bobi Jones (Athletau), Moli Jones (Athletau), Sam Earl Jones (Rygbi), Imogen Camp (Gwyddbwyll), Niamh Susannah Cook (Cerddorioaeth), Will Sissons (Criced).
 
Dywedodd Mr Jim Barry, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: “Ar ran yr Ymddiriedolwyr, hoffwn longyfarch y rhai a wobrwywyd eleni. Roedd yr Ymddiriedolwyr o’r farn bod pob un ohonynt yn bobl ifanc brwdfrydig iawn yn dangos ymroddiad a gallu neilltuol yn y meysydd a dewiswyd ganddynt. Fe hoffwn hefyd, manteisio ar y cyfle hwn i annog unrhyw un sy’n adnabod pobl ifanc (o dan 19 mlwydd oed) o ardal Bae Colwyn, a fyddai’n gallu dangos lefel uchel o lwyddiant yn y celfyddydau, chwaraeon neu addysg, i gysylltu â Chlerc y Dref ym Mae Colwyn (tel: 01492 532248) i gael mwy o wybodaeth ar sut gall Cronfa’r Ymddiriedolaeth helpu i’w cefnogi hwy.”
 
Ychwanegodd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Merrill Jones: “Mae’n fraint i  mi fod wedi cael cyflwyno’r gwobrwyon i’r grŵp yma o bobl ifanc mor dalentog ac i glywed am eu llwyddiannau arwyddocaol dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â’u targedau am y flwyddyn sy’n dod. Mae’n fy synnu bod ein tref yn gallu cynhyrchu’r fath gyfoeth o bobl ifanc mor ymroddgar a thalentog ac rwy’n llongyfarch pawb a wobrwywyd gan ddymuno iddynt pob llwyddiant at y dyfodol. Hoffwn hefyd ddiolch i’r rhieni, athrawon, hyfforddwyr a mentoriaid am eu gwaith caled a’u cefnogaeth.”