DATGANIAD I’R WASG
Grantiau Ieuenctid
Mae Cyngor Tref Bae Colwyn wedi dyrannu £5,000 o’i gyllideb flynyddol i helpu i gefnogi prosiectau / gweithgareddau ieuenctid yn 2022, ar gyfer pobl ifanc yn ardal Bae Colwyn (Llandrillo yn Rhos, Bae Colwyn, Bae Colwyn Uchaf a Hen Golwyn).
Gwahoddir ceisiadau nawr gan grwpiau / mudiadau lleol sy’n ceisio cefnogaeth ariannol (cyfalaf neu refeniw) ar gyfer prosiectau, digwyddiadau neu achlysuron a fydd o fudd penodol i bobl ifanc hyd at 25 blwydd oed.
Mae ffurflen gais ac arweiniad i ymgeiswyr ar gael ar gais o Neuadd y Dref, Ffordd Rhiw, Bae Colwyn (rhif ffôn: 01492 532248 / ebost: [email protected] <mailto:[email protected]>).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar ddydd Llun 31ain Ionawr 2022.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.colwyn-tc.gov.uk neu dewch o hyd i ni ar Facebook @BayofColwynTownCouncil.
Meini Prawf Ariannu Grantiau Ieuenctid ‘ Criteria Youth Grants