DATGANIAD I’R WASG
Colwyn Youth Counts / Ieuenctid Colwyn o Bwys
Mae Cyngor Tref Bae Colwyn wedi clustnodi £5,000 allan o’i gyllideb flynyddol i gynorthwyo gyda phrosiectau / digwyddiadau ieuenctid yn 2020, pan ofynnir i’r cyhoedd a grwpiau lleol i benderfynu pa brosiectau sydd i dderbyn cefnogaeth trwy ‘ Cyllidebu Cyfranogol’.
Mae Maer Bae Colwyn, y Cynghorydd Neil Bastow, yn anfon y neges o apêl canlynol at y trigolion ac yn arbennig at ieuenctid Bae Colwyn, Hen Golwyn a Llandrillo yn Rhos, “Rydym angen eich syniadau am brosiectau neu weithgareddau ar gyfer ein pobl ieuanc lleol. Mae’r dull o wneud cais yn hawdd iawn ac mewn digwyddiad pleidleisio a gynhelir yn Ebrill, chi, ein trigolion lleol, caiff penderfynu pa brosiectau sydd i dderbyn cyllid,. Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan: www.colwyn-tc.gov.uk neu ewch i Facebook @BayofColwynTownCouncil.”