Rydym yn falch o rannu rhai o’r ffyrdd rydym wedi cefnogi ein cymuned dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:

Dros 70 o ddigwyddiadau maerol, o ddigwyddiadau dinesig i ymweliadau ysgolion a dathliadau cymunedol

Buddsoddiad parhaus mewn digwyddiadau fel Prom Xtra, Pride, Traeth Breuddwydion, a’r Picnic Mawr

Cefnogaeth i elusennau lleol sy’n cynnig mannau cynnes, cefnogaeth iechyd meddwl, a gwasanaethau ieuenctid

Gwobr Aur arall i Golwyn yn ei Blodau, a chydnabyddiaeth i’n hysgolion lleol

Gweithio partneriaeth barhaus i lunio Cynllun Lle Colwyn ac adfywio canol ein tref…ac ie, hyd yn oed cyfarfyddiad agos â python ar y pier!

Mae wedi bod yn flwyddyn o egni, calon, a balchder cymunedol—ac mae’r adroddiad hwn yn dathlu’r bobl, y prosiectau a’r partneriaethau sy’n gwneud Bae Colwyn mor arbennig.

Adroddiad Blynyddol 2024-25