Annwyl Arweinydd Sefydliad / Cymunedol
Fy enw i yw Graham Rustom, a fi yw Rheolwr Rhaglen Brechu COVID-19 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Wrth gyflawni’r rhaglen frechu ar raddfa fawr ac ar gyflymder, un o’n prif amcanion yw sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl nad yw eu prif iaith yn Gymraeg na Saesneg yn cael gwybodaeth hygyrch am y rhaglen, ac yn gallu archebu brechiad ar gyfer hunain neu aelod o’r teulu.
I’r perwyl hwn, rydym wedi darparu llythyr sy’n annog ac yn cyfeirio pob person cymwys sy’n byw yng Ngogledd Cymru (oedolion 18 oed a hŷn) i archebu eu Brechlyn COVID-19, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eisoes. Fe’i cyfieithwyd i’r ieithoedd canlynol, sydd heb eu rhestru mewn unrhyw drefn benodol:
- Arabeg – Arabic COVID Vacc Letter 30.6.21
- Pwyleg – Polish COVID Vacc Letter 30.6.21
- Bengali – Bengali COVID Vacc Letter 30.6.21
- Rwmaneg – Romanian COVID Vacc Letter 30.6.21
- Bwlgaria – Bulgarian COVID Vacc Letter 30.6.21
- Portiwgaleg – Portuguese COVID Vacc Letter 30.6.21
- Mandarin Tsieineaidd – Mandarin COVID Vacc Letter 30.6.21
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech gylchredeg y llythyrau hyn ymhlith eich rhwydweithiau a’ch cymunedau, er mwyn sicrhau bod y bobl a fyddai’n elwa fwyaf ohonynt yn gallu cael mynediad atynt.
Rydym yn gweithio’n barhaus i ddarparu gwybodaeth am y rhaglen frechu mewn gwahanol ieithoedd, a byddwn yn diweddaru tudalennau gwe Brechu BIPBC wrth i adnoddau ychwanegol ddod ar gael: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)